2016 Rhif 453 (Cy. 144)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae bathodyn parcio person anabl (a elwir yn “Bathodyn Glas”) yn galluogi’r deiliad i fanteisio ar nifer o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag taliadau penodol sy’n gymwys i fodurwyr eraill. Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth am roi bathodynnau gan awdurdodau lleol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau i ddarparu disgrifiad o bersonau anabl sy’n cynnwys  personau ag anabledd dros dro ond sylweddol, y mae disgwyl iddo gael effaith ar eu symudedd am ddeuddeng mis o leiaf.  

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 4 o’r Prif Reoliadau i fewnosod disgrifiad newydd o bersonau anabl sy’n cynnwys personau sydd dros 2 flwydd oed ac sydd ag anabledd dros dro ond sylweddol. Rhaid bod y person yn analluog i gerdded, neu’n cael anhawster sylweddol i gerdded oherwydd yr anabledd a rhaid bod disgwyl i’r anabledd bara am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 6 o’r Prif Reoliadau i ddarparu’r cyfnod y mae bathodynnau i gael eu rhoi i bersonau ag anableddau dros dro. Blwyddyn yw’r cyfnod rhoi.  

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Drafnidiaeth, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

2016 Rhif 453 (Cy. 144)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                               29 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       30 Mawrth 2016

Yn dod i rym                            1 Hydref 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970([1]), a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru([2]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Hydref 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio’r Rheoliadau

2.(1) Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000([4]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl)—

(a)     ar ddiwedd paragraff (2)(e) yn lle’r atalnod llawn rhodder hanner colon;

(b)     ar ôl paragraff (2)(e) mewnosoder—

(f) yn analluog i gerdded neu’n cael anhawster sylweddol i gerdded oherwydd anabledd dros dro ond sylweddol y mae disgwyl iddo bara am gyfnod o 12 mis o leiaf.”

(3) Yn rheoliad 6 (ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi)—

(a)     yn lle paragraff (4)(c) rhodder—

(c) i berson sy’n dod o fewn y disgrifiad a bennir yn rheoliad 4(2)(f), am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau gyda’r dyddiad rhoi;”;

(b)     ar ôl paragraff (4)(c) mewnosoder—

(ch)  i berson nad yw’n dod o fewn is-baragraffau (a), (b) neu (c) am gyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad rhoi.”

 

 

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2016

 

 



([1])           1970 p. 44. Diwygiwyd adran 21, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru, gan adran 146 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27), a pharagraff 11 o Atodlen 13 iddi, ac adran 35 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40), ac Atodlen 8 iddi.

([2])           Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.

([3])           Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([4])           O.S. 2000/1786 (Cy. 123); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.  2011/1588 (Cy. 183), 2012/309 (Cy. 50), 2013/438 (Cy. 54) a 2014/3082 (Cy. 306).